Thomas Abraham

Golygwyd gan : Person13 Wales at War / Cymru yn y Rhyfel 04/01/2017

Dyddiad geni: 1896

Man geni: Nelson, Sir Forgannwg

Dyddiad marw: 1/5/1918

Lle bu farw: Mewn ysbyty

Rhyw: Gwrywaidd

Lle claddwyd : Mynwent Prydeining Arneke

  • Dyddiad geni - 1896

    Ble ? - Nelson, Sir Forgannwg

  • Dyddiad Ymrestrodd - N/A

    Ble ? - Casnewydd, Sir Fynwy

    Oedran - N/A

    Fel - Fel Anhysbys

  • Brwydrau

  • Dyddiad y frwydr - 21/3/1918

    Ble ? - Ymosodiad y Gwanwyn

  • Rhengoedd

  • Rheng Dyddiad - N/A

    Rheng - Fel Milwr Cyffredin

    Gwasanaeth - Y Fyddin Brydeining

    Fel - South Wales Borderers

    Rhif gwasanaeth - 13882

  • Rheng Dyddiad - N/A

    Rheng - Fel Corporal

    Gwasanaeth - Y Fyddin Brydeining

    Fel - South Wales Borderers

    Rhif gwasanaeth - 13882

  • Ennillodd fedal

  • Dyddiad dyfarnu - N/A

    dyfarnwyd - Math : Seren 1914-15

  • Dyddiad dyfarnu - N/A

    dyfarnwyd - Math : Medal Rhyfel Prydeinig

  • Dyddiad dyfarnu - N/A

    dyfarnwyd - Math : Medal Buddugoliaeth

  • Dyddiad marw - 1/5/1918

    Ble ? - Mewn ysbyty


Teulu


  • Tad - William Abraham
  • Mam - Alice Abraham
  • Chwaer - Emily Abraham
  • Chwaer - Winifred Abraham
  • Chwaer - Clarice Abraham
  • Chwaer - Lilian Abraham


Cyfeiriad


  • 18 Stryd Torlais, Trecelyn, Sir Fynwy


Iaith/ieithoedd siaradwyd


  • Saesneg
  • Cymraeg


Gwybodaeth bellach


Teulu Ganwyd Thomas Abraham yn Nelson, Sir Morgannwg, yn 1896 yn fab i William ac Alice Abraham. Yn 1901, roedd y teulu yn byw yn 20 Shingrig Road, Nelson. Roedd gan Thomas dwy chwaer hun, Emily a Winifred, a dwy chwaer iau, Clarice a Lilian. Roedd ei dad, William, yn lowr. Yr oedd yn medru'r Gymraeg a'r Saesneg fel ei blant; ei wraig Alice oedd yr unig aelod o'r teulu oedd yn methu'r Gymraeg. Bu farw William yn 1901. Erbyn cyfrifiad 1911 roedd Alice wedi priodi George Hughes, oedd deng mlynedd yn iau. Gyda George, cafodd Alice tri plentyn arall - Theresa Ethel, Frederick George a Florence Nelly. Yn 1911 roedd y teulu'n byw yn 18 Torlais Street, Trecelyn. Roedd Thomas, yn 15 oed, yn gweithio fel glowr. Milwrol Ymrestrodd Thomas i'r fyddin fel Preifat (13882) gyda'r 5ed Bataliwn (Gwasanaeth) Cyffinwyr De Cymru. Ar ôl hyfforddi, cyrhaeddodd y Bataliwn yn Le Havre, Ffrainc, ar 16 Gorffennaf 1915 fel rhan o'r 38ain Brigâd a'r 19fed Adran. Ymysg swyddogaethau'r Bataliwn oedd palu ffosydd a cloddio, ynghyd â bomio ac ymladd. Ymladdodd y 5ed Bataliwn yn Loos yn Medi 1915 a gwariodd y gaeaf yn trwsio ffyrdd, codi ffyrdd ar gyfer tramiau, gwella ffosydd a cloddio yn agos i'r gelyn. Yn 1916, bu'r Bataliwn yn ymladd ar y Somme gan golli 220 dyn yn 10 diwrnod olaf Gorffennaf. Yn Mawrth 1917, symudodd y Bataliwn i Ypres i baratoi ar gyfer ymosodiad Messines Ridge, gan gynnwys cadarnhau unrhyw lleoliadau wedi'u hennill a helpu paratoi symud y gynnau oedd yn dilyn y milwyr. Dilynodd ymladd brwd ac ennillodd y Bataliwn dau MC, dau DCM a dau MM am ei rôl yn y frwydr. Yn ystod hydref 1917, roedd y Bataliwn yn cymryd rhan yn Nhrydedd Brwydr Ypres ac yn Passchendaele. Erbyn Mawrth 1918, roedd y Bataliwn wedi colli 150 dyn wrth ymladd yn ymosodiad yr Almaenwyr. Cafodd Thomas ei anafu'n angheuol ar 29 Ebrill.

Cyfeirnod Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad

Adnoddau defnyddiwyd