Adnoddau
Croeso i ardal Adnoddau Cymru yn y Rhyfel. Pwrpas yr ardal yma yw eich cyfeirio tuag at sefydliadau, prosiectau ac adnoddau defnyddiol yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf bydd o bosib o help i chi yn eich ymchwil.
Mae canllawiau wedi’u datblygu ar gyfer athrawon a disgyblion i roi cyngor ar sut i fynd ati i ymchwilio cofebion a bywgraffiadau, pa gofnodion sydd ar gael a ble maent yn cael eu cadw. Darparir hefyd cysylltiadau at adnoddau ar-lein ac all-lein perthnasol, er enghraifft archifdai, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol.
Y bwriad yw i’r ardal yma ddatblygu dros amser wrth i fwy o adnoddau cael eu chwilio a chanllawiau eu paratoi. Fe allwch chi hefyd ychwanegu cyfeiriadau yn uniongyrchol os ydych yn darganfod unrhyw adnoddau ar-lein neu all-lein bydd o ddiddordeb i eraill ac nad sydd wedi’u rhestri’n barod.