Dyma rhai canllawiau i helpu i chi ddysgu sut i ddefnyddio'r wefan ac i roi cymorth i'ch disgyblion gyda'u hymchwil.
Creu bywgraffiadau gyda Cymru yn y Rhyfel
Defnyddio Cymru yn y Rhyfel i greu bywgraffiadau
Dewis cofeb
I alluogi i ddisgyblion fynd ati i greu bywgraffiadau, mae gofyn i chi, yn gyntaf, i ddewis cofeb (neu gofebion) iddynt weithio ar. Gallai hyn fod y gofeb fwyaf lleol i’ch ysgol neu unrhyw gofeb arall o ddiddordeb i chi.
Dewiswch y sir briodol a’r gofeb o’r rhestrau dewis, neu dewiswch y gofeb yn union o’r map ar waelod y dudalen. Mae data yn perthyn i nifer o gofebion a mynwentydd Cymreig yn barod wedi’u cynnwys yn y bas data. Darparwyd y data yma gan bartneriaid y prosiect, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Fodd bynnag, nid yw’r data yma yn gyflawn ac mae yna nifer o gofebion dros Gymru sydd angen eu hadnabod a’u cynnwys.
Nodyn: Mae’n bosib nad yw pob cofeb wedi’u pinio ar y map felly cofiwch edrych yn y rhestr ddewis hefyd cyn creu cofeb newydd.
Creu cofeb newydd
Os nad yw’r gofeb yn y system yn barod, medrwch greu cofnod newydd ar gyfer y gofeb gan ddewis yr opsiwn ‘Ychwanegu cofeb’. Mae’r nodwedd yma dim ond ar gael i athrawon. Ni fydd disgyblion yn gallu ychwanegu cofebion o’u cyfrifon nhw.
Mae’r dudalen ‘Ychwanegu cofeb’ yn galluogi i chi ychwanegu manylion sylfaenol am hanes, lleoliad a nodweddion pensaernïol y gofeb. Yr unig feysydd sy’n rhaid eu llenwi yw:
-
Enw
-
Sir
-
Cyfeiriad – Gallwch geo-gyfeirio’r maes yma – hynny yw, ei binio ar y map – gan glicio ar yr eicon nesaf i’r maes. Medrwch leoli’r pin yn fanwl gywir drwy ddefnyddio’r blwch chwilio cyfeiriad yn y ffenestr newydd a thrwy symud y pin i’r lleoliad cywir ar y map.
Mae pob maes arall yn ddewisol.
Bydd y cofnod ar gael yn syth i ddefnyddwyr eraill Cymru yn y Rhyfel unwaith i chi ei gyflwyno ar gyfer cyhoeddi. Bydd disgyblion hefyd yn gallu dechrau ychwanegu bywgraffiadau o’r bobl sydd wedi’u coffáu ar y gofeb.
Creu bywgraffiadau
Dim ond y disgyblion sy’n gallu cyflwyno bywgraffiadau i’w cyhoeddi. Nid oes rhaid i bob disgybl creu bywgraffiad ei hunain. Mae’n bosib i chi weithio ar fywgraffiad fel dosbarth neu i’r disgyblion weithio mewn grwpiau.
Fel athro/athrawes, gallwch aseinio bywgraffiad penodol i ddisgyblion neu grwpiau penodol drwy’r dashfwrdd gweinyddu. I wneud hyn, cliciwch ar ‘Ychwanegu unigolyn’. Ychwanegwch enw cyntaf a chyfenw'r unigolyn ac arbedwch y drafft. Bydd y drafftiau yma wedyn yn ymddangos yn eich dashfwrdd gweinyddu ble bydd gyda chi’r opsiwn i aseinio’r bywgraffiad.
Sut i gymeradwyo bywgraffiadau
Unwaith i’r disgyblion gwblhau ei gwaith a chyflwyno’r bywgraffiad i’w gymeradwyo, byddwch yn derbyn hysbysiad fel y gallwch adolygu a chymeradwyo’r cynnwys cyn ei gyhoeddi. Gallwch chwilio bywgraffiadau sy’n aros i’w cymeradwyo, ynghyd â rhestr o’r rheini sydd wedi’u cymeradwyo eisoes, yn y dashfwrdd gweinyddu o dan y tab ‘Bywgraffiadau’.
Gall bywgraffiadau nail ai cael eu cymeradwyo neu eu dychwelyd I’r disgyblion ar gyfer newidiadau pellach. Gallwch ychwanegu sylwadau i’r bywgraffiadau cyn eu dychwelyd i roi gwybod pa newidiadau sydd eu hangen.
Bydd y bywgraffiadau yn agored i holl ddefnyddwyr Cymru yn y Rhyfel unwaith iddynt cael eu cymeradwyo. Deallwn na fydd efallai’n bosib i chi wirio pob ffaith yn y bywgraffiad, ond holwn eich bod yn ceisio sicrhau bod dim camgymeriadau amlwg na esiamplaqu o gamddefnydd.
Creu bywgraffiadau gyda Cymru yn y Rhyfel