Cymru yn y Rhyfel
Gallwch chi ein helpu ni i gofio ac i ddarganfod mwy am y Cymry cyffredin y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael eu coffau ar cofebau rhyfel leol Cymru?
Adnodd digidol yw Cymru yn y Rhyfel ar gyfer pawb gyda diddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith ar gymunedau yng Nghymru. Nod y prosiect yw casglu hanesion y 40,000 o bobol o Gymru - milwyr, morwyr, awyrenwyr, nyrsys a phobol gyffredin - a gollodd eu bywydau fel rhan o’r ymdrech ryfel yng Nghymru. Gyda’ch cymorth chi, yr ydym yn gobeithio casglu gymaint o wybodaeth â phosib erbyn diwedd y cyfnod canmlwyddiant fel ein bod yn gallu dechrau deall yn well gwir effaith y Rhyfel ar gymdeithas a diwylliant Cymru.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, a Chronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Partneriaeth yw’r prosiect rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’r Llynges Frenhinol, ynghyd â nifer o ysgolion - cynradd ac uwchradd - dros Gymru.