Cwestiynau cyffredinol

 

Mae canllawiau manylach ar sut i greu cofnodion newydd ar gael yn yr ardal Adnoddau

 

Beth sy’n cyfri fel cofeb?

Gall cofeb fod yn unrhyw fath o gerflun neu strwythur a sefydlwyd ar gyfer ein hatgoffa o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r bobol oedd yno. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  • cerflun yng nghanol y pentref;
  • ffenestr liw mewn Capel neu Eglwys;
  • carreg fedd;
  • mainc coffa mewn parc;
  • rhestr o enwau wedi’u cerfio, arysgrifio neu eu printio ar fwrdd, tabled neu ddarn o bapur; neu,
  • unrhyw fath arall o gofeb gallwch chwilio sy’n cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn rhyw fodd.

 

Pam bod rhai cofebion yno, ond dim eraill?

Nid yw’r rhestr o gofebion yn gyflawn. Yr ydym yn ymwybodol bod nifer mwy i’w hychwanegu. Mae rhai o’r cofebion sydd eisoes yno wedi dod o gasgliadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cafodd eraill eu hychwanegu gan wirfoddolwyr Cymru yn y Rhyfel. Os yw’r gofeb yr ydych yn edrych amdani ar goll, gallwch ei ychwanegu unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi.

 

Beth os na allaf lenwi’r meysydd i gyd ar gyfer bywgraffiad?

Peidiwch â phoeni! Mae unrhyw faes y gallwch lenwi yn werthfawr fel y gallwn ddechrau adeiladu darlun gwell o’r bobol a fu farw o ganlyniad i’r Rhyfel. Dim ond 4 maes sy’n orfodol: enw cyntaf, cyfenw, y gofeb yng Nghymru maent wedi’i enwi arni, a dolen i’w cofnod ar wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

 

Pam bod angen i fi ddarparu dolen i wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad wrth greu bywgraffiad?

Yr ydym yn gofyn i chi gysylltu i gofnod ar-lein y person ar wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad er mwyn ceisio sicrhau bod ein bas data mor gywir â phosib. Weithiau mae person yn ymddangos ar fwy nac un gofeb, neu gall dau ‘John Jones’ ymddangos ar yr un gofeb. Mae cysylltu i wefan Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn golygu gallwn osgoi ychwanegu’r un person mwy nac unwaith. Mae hefyd yn helpu ni i wahaniaethu rhwng y ddau ‘John Jones’.

 

Beth fydd yn digwydd i’r bywgraffiad unwaith iddo gael ei gyhoeddi?

Unwaith i chi gyhoeddi eich bywgraffiad, fe fydd ar gael i bawb sy’n defnyddio gwefan Cymru yn y Rhyfel i weld.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’r prosiect drwy’r dudalen Cysylltu â ni.

Diolch yn fawr!
Tîm Cymru yn y Rhyfel