Yr Amerig yn Ymuno a’r Rhyfel

Yn grac gydag ymosodiadau llongau tanfor yr Almaenwyr, mae’r Amerig yn darganfod fod yr Almaenwyr yn cynllunio gyda Mecsico yn eu herbyn...

Ym mis Chwefror 1917 rhoddwyd nodyn i lysgennad yr Amerig ym Mhrydain. Roedd y nodyn yn cynnwys neges a ddanfonwyd yn gudd gan yr Almaen i Mecsico. Cafodd ei rhyng-gipio a’i dadgodio gan unedau cudd-wybodaeth Prydain. Roedd y neges yn syfrdanol. Roedd yr Almaen eisiau i Mecsico gytuno i gynghrair tase’r Amerig yn ymuno a’r rhyfel. Yn gyfnewid, byddai’r Almaen yn rhoi arian i Mecsico a’i helpu nhw ymosod ar yr Amerig i feddiannu rhai o daleithiau’r de. Gelwir y neges yn Delegram Zimmerman - wedi ei enwi ar ôl y dyn a’i sgwennodd, Ysgrifennydd Tramor yr Almaen, Arthur Zimmerman.

... felly mae’r Unol Daleithiau yn ymuno a’r rhyfel ar 6ed Ebrill

Dyma oedd y pur ddiwedd i’r Arlywydd Wilson. Yn gyntaf, roedd yr Almaen wedi cychwyn rhyfela tanfor anghyfyngedig ac roedd llongau Americanaidd yn cael eu suddo. Nawr roedd yr Almaen yn bygwth yr Amerig yn uniongyrchol drwy gynllunio gyda Mecsico.

Ar 2 Ebrill 1917 rhoddodd Arlywydd Wilson araith i Gyngres – fersiwn Americanaidd o’r Tŷ Cyffredin. Dywedodd fod gweithredoedd yr Almaen yr un peth a chyhoeddiad rhyfel yn erbyn yr Amerig. Cytunodd y Gyngres ac ar 6 Ebrill 1917 cyhoeddodd yr Amerig rhyfel ar yr Almaen.

Ym mis Mai 1917 pasiodd yr Amerig ddeddf yn caniatáu i ddynion o oed 21-30 i gael eu dewis i ymladd. Gelwid hwn yn ‘drafft’. Yma mae dyn wedi ei fygydu yn tynnu rhifau mas ar hap. Mae pob rhif yn cynrychioli dyn.