Cadoediad
Ar 11eg o Dachwedd mae’r cadoediad yn dod a’r ymladd i ben.
Yn gynnar ym mis Tachwedd daeth cynrychiolwyr yr Almaen i gwrdd â Chomander y Cynghreiriaid, Ferdinand Foch i drafod termau ar gyfer cadoediad. Roedd gofynion Foch yn llym gan gynnwys tynnu lluoedd arfog yn ôl o bob tiriogaeth oedd wedi ei meddiannu a gadael i’r Cynghreiriaid gymryd rheolaeth o ardaloedd o gwmpas Afon y Rhein ar ffin yr Almaen. Bu rhaid i’r Almaen hefyd ildio’i holl longau tanfor a llongau rhyfel.') ?>
Daeth y cadoediad i rym am 11yb ar 11 Tachwedd. Cymerodd y newyddion sbel i gyrraedd rhai ardaloedd lle roedd y brwydro yn parhau.
Y cyfanswm o farwolaethau ar 11 Tachwedd oedd 900 – efallai colledion mwyaf trist y rhyfel.
Yn Llundain dathlodd miloedd o bobl ar y strydoedd. Ledled Cymru roedd golygfeydd o lawenydd a rhyddhad. Ar ôl i’r newyddion gyrraedd ar 11 Tachwedd (dydd Llun) penderfynodd nifer o weithleoedd gyhoeddi gwyliau, ac roedd awyrgylch carnifal mewn rhai mannau.
Oeddech chi’n gwybod…
Digwyddodd y cadoediad mewn cerbyd trên ar bwys Paris. Yn 1940 pan ildiodd Ffrainc i luoedd yr Almaen Natsiaidd, mynnodd Adolf Hitler i gynrychiolwr Ffrainc arwyddo’r ildiad yn union yr un cerbyd.

Grŵp o fenywod yn reidio car Americanaidd i ddathlu diwedd y rhyfel.

Tyrfeydd yn dathlu yn strydoedd Paris.
Adnoddau Allanol
Read the report in the Cambrian Daily Leader about the peace celebrations in Swansea area on 12th November 1918.
The North Wales Chronicle sums up the last stories of the war. An interesting piece is entitled "Germany's Doom Sealed. A Crime Impossible to Forget" This gives us an indication of just how angry people were with Germany, the country that the Allied nations blamed for starting the war.
Excerpts from a letter in the Aberdare Leader by two brothers from the Abercynon area writing home to their parents about how they felt when Armistice was announced: