Tanbelennu

Ymosodiad morol yn methu cipio’r Dardanelles.

Ym mis Mawrth 1915 ceisiodd llongau rhyfel Prydeinig a Ffrengig gwneud eu ffordd trwy’r Dardanelles i Gonstantiopl (Istanbul heddiw). Amddiffynnwyd y Dardanelles gan gaerau wedi eu arfogi gan fagnelau ac hefyd gan ffrwydron môr. Ni lwyddodd y llu morol felly roedd rhaid i’r ymosodiad nawr gynnwys glanio milwyr ar gorynys Gallipoli.