Prydain

Prydain a’i Hymerodraeth yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen a’i chynghreiriaid.

Ar y 4ydd o Awst, cyhoeddodd Prydain rhyfel ar yr Almaen.

Anfonodd Prydain wltimatwm yn dweud wrth yr Almaen i dynnu ei milwyr allan o Wlad Belg, gan roi dyddiad terfyn iddynt. Ni ymatebodd yr Almaen.

Ni aeth Prydain mewn i’r rhyfel ar ei phen ei hun. Roedd ganddi Ymerodraeth yn cynnwys nifer o wledydd. Daeth y gwledydd hyn mewn i’r rhyfel hefyd, gan gynnwys Canada, Awstralia, De Affrica, Seland Newydd, India a gwledydd o’r Affrig.

Roedd teimladau cymysg am fynd i ryfel, ond ar y cyfan yn fuan fe ddaeth y mwyafrif o bobl Prydain i dderbyn bod y penderfyniad yn un iawn. Roedd nifer yn or-hyderus, yn meddwl y byddai’r rhyfel drosodd yn gyflym a ni fyddai’r Almaen yn fygythiad am hir. Brysiodd dynion ifanc i ymrestru yn y fyddin, nifer ohonynt gyda syniadau rhamantus am y cyfle i brofi eu hunain ar faes y gad.

Adnoddau Allanol

Hysbyseb recriwtio ym mhapur newydd yr Herald Cymraeg.
Sylwch ar y nifer o bosteri propaganda yma.
Sylwch ar y nifer o bosteri propaganda yma.

Mae’r llun yma’n dangos dynion ifanc yn aros i ymrestru yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, roedd golygfeydd hyn yn fyrhoedlog. Dim ond yn ystod wythnosau cynta’r rhyfel yr oedd rhuthro i ymrestru, a dim ond mewn rhannau penodol o’r wlad. Mewn rhan fwyaf o ardaloedd gwledig roedd y gyfradd recriwtio yn isel iawn ar ddechrau’r rhyfel. ( Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn berchen ar yr hawlfraint i’r adnodd yma yn a chaiff ei drwyddedu o dan drwydded Creative Commons Cydnabyddiaeth-Anfasnachol-RhannuYnYrUnModd.)

Recriwtiaid Prydain yn ymgasglu yng nghanol Llundain ar ddechrau’r rhyfel. Fel miloedd o ddynion ifanc ledled Ewrop, roedd nifer yn gweld y rhyfel fel cyfle am antur.

Rhai o’r milwyr Prydeinig cyntaf i adael am Ffrainc, ar y trên. Roedd gan Brydain fyddin fach broffesiynol ar ddechrau’r rhyfel, gan dyfu wrth i ddynion ifanc ymrestru i frwydro. Ond roedd rhaid i’r recriwtiaid newydd gael eu hyfforddi yn gyntaf. Yn hwyrach yn y rhyfel daeth hi’n anoddach i berswadio dynion i ymuno a’r fyddin - roeddent yn gwybod erbyn hynny pa mor ofnadwy oedd y brwydro - felly bu rhaid i Brydain gyflwyno consgripsiwn.

Cartŵn doniol. Y dyn yn y wasgod yw John Bull - mae e’n cynrychioli Prydain. Mae e’n chwifio’i fys at Kaiser Wilhelm bach, gan roi stŵr iddo am ddechrau’r rhyfel. Yn y cefndir gellid gweld lluoedd arfog Prydain. Dywedwyd wrth bobl Prydain y byddai’r rhyfel drosodd erbyn y Nadolig, a byddai’r Almaen yn cael ei churo’n rhwydd...