Gwrthwynebwyr Cydwybodol
Mae consgripsiwn yn achosi dicter ym Mhrydain ac mae rhai yn gwrthod cofrestru – gelwir nhw’n wrthwynebwyr cydwybodol.
Gwrthododd nifer o bobl ym Mhrydain i gonsgripsiwn. Ym mis Ebrill 1916, protestiodd 200,000 bobl yn ei erbyn yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain.
Gwrthododd rhai pobl ymrestru a’r fyddin - gelwir nhw’n wrthwynebwyr cydwybodol. Roedd y rhan fwyaf yn erbyn rhyfel oherwydd rhesymau moesol neu grefyddol.
Roedd gwrthwynebwyr yn gorfod mynd trwy dribiwnlys - achos llys - i brofi eu bod o ddifri yn erbyn rhyfel ac nid oeddent yn gallu mynd oherwydd eu cydwybod. Rhoddwyd swyddi i ffwrdd o faes y gad i’r rheini a basiodd. Roedd y rhain yn cynnwys llafur corfforol neu weithio ar ffermydd neu mewn swyddi meddygol.
Gwrthododd rhai gwrthwynebwyr wneud unrhyw beth i wneud a’r rhyfel. Gelwir y bobl yma’n wrthwynebwyr absoliwt. Gall eu safiad fod wedi arwain at gyfnod yn y carchar neu gosb waeth. Anfonwyd rhai i Ffrynt y Gorllewin lle gallent gael eu rhoi ar brawf milwrol a’u dienyddio am beidio ag ymladd. Yn wir, dyfarnwyd rhai i farwolaeth ond ni ddienyddiwyd yr un ohonynt a lleihawyd y gosb i garchariad nôl ym Mhrydain.
All conscientious objectors (or "conchies") had to face angry reaction from the people around them. They were often considered cowards for refusing to fight.
Gwrthwynebwyr cydwybodol Cymreig
Ganwyd George Maitland Davies i deulu Cymreig yn Lerpwl. Symudodd i Ogledd Cymru ac yn 1914 sefydlodd ef, ynghyd a Richard Roberts o Flaenau Festiniog, Cymdeithas y Cymod – sefydliad Cristnogol i hyrwyddo heddwch. Mynychodd dribiwnlys a phrofodd ei fod yn wrthwynebwr cydwybodol, ond cafodd ei arestion yn ddiweddarach am bregethu heddychiaeth yn gyhoeddus.
Gwrthododd y bardd, David James Jones, neu Gwenallt yn ôl ei enw barddol, i ymrestru a danfonwyd i garchar Wormwood Scrubs. Nes ymlaen danfonwyd ef i Dartmoor yn Nyfnaint lle dedfrydwyd ef i lafur caled.
Ganwyd Morgan Jones yn Gelligaer. Daeth yn wleidydd, gan ymuno a’r Blaid Lafur Annibynnol. Roedd Jones yn llwyr yn erbyn y rhyfel, gan gredu ei fod yn anghywir. Ymunodd a Chymdeithas Dim Consgripsiwn a daeth yn gadeirydd Pwyllgor Gwrth-Gonsgripsiwn De Cymru. Gwrthododd Jones ag ymladd. Mynychodd dribiwnlys lle dywedwyd wrtho nad oedd rhaid iddo ymladd ond fod rhaid iddo wneud rhywbeth i gyfrannu tuag at yr ymdrech rhyfel. Gwrthododd Jones y cynnig hwn ac arestiwyd ef.

Mae’r dynion hyn yn wrthwynebwyr cydwybodol – maent wedi gwrthod ymladd. Cymerwyd y ffotograff hwn yng Ngwersyll Dyce yn yr Alban lle cafodd rhai gwrthwynebwyr cydwybodol eu danfon i weithio deg awr y dydd yn torri cerrig. Caeodd y gwersyll ym mis Medi 1916 ar ôl i ddyn farw o ganlyniad i amodau gwael y gwaith.
Adnoddau Allanol
Un dyn a wrthododd ymladd yn y rhyfel oedd Emrys Hughes, athro o Abercynon. Esboniodd ei rhesymau mewn llythyr i’r Aberdare Leader a gyhoeddwyd ar 15 Ionawr 1916.
Erthygl o’r Llanelli Star yn 1916 yn nodi’r dicter a deimlwyd gan rhai pobl tuag at wrthwynebwyr cydwybodol. Yma mae dyn yn cael ei ystyried ar gyfer swydd fel athro ond mae rhai pob yn erbyn y syniad o roi swyddi i wrthwynebwyr cydwybodol.