Yr Aifft a Phalesteina

Ym mis Ionawr 1917 roedd y Llu Alldeithiol Eifftaidd yn dal i frwydro yn erbyn lluoedd y Twrciaid ym Mheninsiwla Sinai. Lansiwyd ymosodiad ar safle mawr olaf y Twrciaid ar ffin Palesteina, Rafah, a llwyddo i amgylchynu a threchu garsiwn y Twrciaid (y milwyr yn amddiffyn y safle).

Roedd y comander a oedd y pennaeth y Llu Alldeithiol Eifftaidd, y Cadfridog Murray, yna’n gallu dechrau cynllunio ymosodiad mewn i Balesteina. Ei nod yn y pen draw oedd cipio Jerwsalem.

Ar ddiwedd mis Mawrth, lansiodd Murray ei ymosodiad cyntaf mewn i Balesteina. Ym Mrwydr Gyntaf Gaza dioddefodd ei luoedd 4,000 o golledion a methon nhw gipio’r ddinas. Roedd y 53edd Adran Gymreig yn rhan o’r ymosodiad. Roeddent yn gyfrifol am gipio peth tir uchel pwysig i’r de o’r ddinas - mae tir uchel wastad yn werthfawr mewn brwydrau. Llwyddon nhw, gan ddioddef nifer o golledion, ond daeth y frwydr yn fwy cymhleth ac ildion nhw ar ôl derbyn gorchmynion cymysg. O’r 4,000 o golledion y Cynghreiriaid yn y frwydr, roedd tri chwarter ohonynt o’r 53edd Adran.

Er gwaethaf y methiant ym Mrwydr Gyntaf Gaza, rhoddwyd caniatâd i Murray geisio ymosod mewn i Balesteina unwaith eto.

Ym mis Ebrill gwelwyd llawer o golledion am brin gynnydd yn Ail Frwydr Gaza. Collodd Llywodraeth Prydain amynedd gyda Murray a rhoi comander newydd yn ei le, y Cadfridog Edmund Allenby. Rhoddwyd un gorchymyn pwysig i Allenby - i gipio Jerwsalem erbyn Nadolig.

Lansiodd Allenby Trydedd Frwydr Gaza ym mis Hydref ac achosi i’r Twrciaid i gilio. Ym mis Rhagfyr ymosododd yn llwyddiannus ar Jerwsalem. Unwaith eto, roedd y 53edd Adran Gymreig yn rhan o’r lluoedd a frwydrodd mwyaf. Ar ôl dim ond un diwrnod, rhoddodd y Twrciaid y gorau i’r ddinas. Roedd cipio’r ddinas yn hwb mawr i forâl ym Mhrydain - disgrifiodd Allenby hi fel anrheg Nadolig.

Roedd y Preifat D. H. Davies o Sir Ddinbych yn bresennol ym Mhalesteina. Ym mis Tachwedd 1917 printiwyd ei lythyr yn y Denbighshire Free Press.

“Rwy’n ddiweddar wedi gwella o ymosodiad gwael o Falaria, ond rwy’n falch gallu dweud wrthych chi fod mod i nawr yn iawn, diolch i Dduw. Yn bresennol rydw i ‘rhywle ym Mhalesteina’, ac, od dweud, rwyf wedi cwrdd â grŵp o fechgyn da o Ddinbych, Rhuthun a Llanelwy.”

“Does dim llawer o amser gyda ni i ymlacio, gan taw gwaith, gwaith a mwy o waith yw’r drefn; ond rydyn ni gyd yn ‘llawen ac yn hwylus’ er gwaetha’r anghysuron rydyn ni’n profi o ddydd i ddydd, gan fod ymgyrchu yn y wlad hon ddim yn rhwydd, mae’n waith i gyd, gwaith onest a chaled. Mae’n ddiwerth ceisio gwadu’r ffaith ein bod ni gyd yn hiraethu i fod adref eto.”

Erthygl lawn

The newspapers of Wales made much of the involvement of local men in the taking of Jerusalem. Swansea’s Cambrian Daily Leader noted that the first British gunners to enter the city were two brothers from Morriston, Ivor and Evan Brazell:

Mewn llythyr a anfonwyd adref i’w deulu ar 15 Rhagfyr 1917, dywedodd y Rhingyll Ivor Brazell: “Ers ysgrifennu i chi y tro diwethaf, rwyf wedi teithio nifer o filltiroedd, ac ar ôl brwydro a byw caled, rydyn ni wedi dod i rai o’r llefydd a enwyd yn y Beibl. Symudon ni drwy Hebron, Bethlehem a Jerwsalem, lle rydyn ni nawr.”

Erthygl lawn

Milwr Prydeinig yn derbyn cymorth meddygol ym Mhalesteina. Mae bwled wedi ei dynnu o’i fraich.

Gwelwch y frwydr am Jerwsalem yn datblygu ar ein map wedi’i animeiddio.