Yr Eidal

Ble ?

Digwyddodd rhan fwyaf o’r brwydro ar Ffrynt yr Eidal ar hyd yr Afon Isonzo ac yn ardal Trentino. Roedd y tirwedd yn yr ardaloedd hyn yn aml yn eithafol ac roedd milwyr yn brwydro’n uchel yn yr Alpau eiriog.

Pam ?

Roedd yr Eidal yn niwtral i gychwyn ond perswadiodd y Cynghreiriaid iddyn nhw ymuno yn y rhyfel yn 1915. Lansiodd yr Eidal gyfres o ymgyrchoedd yn erbyn Ymerodraeth Awstria-Hwngari.

Pryd ?

Dechreuodd Ffrynt yr Eidal yn 1915 pan ymunodd yr Eidal a’r rhyfel, gan bara tan buddugoliaeth yr Eidalwyr ym Mrwydr Vittorio Veneto pan gurwyd lluoedd Awstria-Hwngari.

Pwy ?

Roedd y brwydro ar Ffrynt yr Eidal yn bennaf rhwng lluoedd yr Eidal ac Awstria-Hwngari. Fodd bynnag, danfonwyd Almaenwyr i gefnogi’r Awstriaid-Hwngariaid a Phrydeinwyr, Ffrancod ac Americanwyr i gefnogi’r Eidalwyr yn eu hymdrech i wthio’r Pwerau Canolog yn ôl.

Felly ?

O ganlyniad i’w cyfraniad yn y rhyfel, roedd sefyllfa ariannol yr Eidal ar chwâl. Cyfrannodd yr argyfwng hwn i ddyfodiad ffasgiaeth ac erbyn 1925 roedd yr arweinydd ffasgaidd, Benito Mussolini, wedi harneisi’r dicter a chenedlaetholdeb eithafol yn y wlad a sefydlu unbennaeth ffasgaidd.