1915

Ym mis Mai 1915 ymunodd yr Eidal a’r rhyfel ar ochr y Cynghreiriaid.

Roedd yr Eidal eisoes wedi arwyddo cytuniad gyda’r Almaen ag Awstria-Hwngari cyn y rhyfel, gan greu’r Entente Driphlyg. Roeddent wedi aros yn niwtral mor belled.

Ond perswadiodd Prydain, Ffrainc a Rwsia i’r Eidal ymuno â nhw yn lle. Roedd yr Eidal eisiau ymestyn ei thiriogaeth a chynigodd y Cynghreiriaid dir yn Awstria-Hwngari yn ogystal â threfedigaethau’r Almaen yn yr Affrig os ymunodd yr Eidal â nhw.

Digwyddodd yr ymladd ar Ffrynt yr Eidal mewn dau man yn bennaf – Ardal y Trentino ac ar hyd yr Afon Isonzo. Roedd y ddwy ardal hon yn fynyddog iawn, a wnaeth hi’n rhyfel gwahanol iawn i’r un a ymladdwyd ar Ffrynt y Gorllewin mwdlyd.

Ym mis Mehefin, lansiodd yr Eidal Brwydr Cyntaf yr Isonzo – y cyntaf o un ar ddeg brwydr yn yr ardal hon. Y nod oedd i dorri trwodd tuag at porthladd Trieste yn Awstria-Hwngari, a oedd yn cynnwys nifer o bobl Eidalaidd. Treuliodd y fyddin Eidalaidd rhan fwyaf o’r rhyfel yn ceisio llwyddo yn y nod hwn – gan ddioddef colledion anferth yn y broses.

Milwyr Awstria-Hwngari mewn ffos yn ymladd yn uchel dros yr Afon Isonzo.