Italy - 1916
Yn 1916 lansiodd yr Eidalwyr mwy o ymosodiadau ar hyd yr Afon Isonzo. Ar bob achlysur dioddefodd yr Eidalwyr a’r Awstro-Hwngariaid golledion trwm am gynnydd prin. Ym mis Mai, lansiodd Awstria-Hwngari ymosodiad yn ardal y Trentino ond achosodd y dirwedd fynyddog ac eiraog broblemau i’r ddwy ochr. Roedd Awstria-Hwngari hefyd o dan bwysau gan Ymosodiad Brusilov y Rwsiaid yn y dwyrain a bu rhaid atal yr ymosodiad yn y Trentino ym mis Mehefin.

Milwyr Eidalaidd yn codi magnel drwy ardal fynyddog y Trentino. Y Ffrynt Eidalaidd oedd siŵr o fod amgylchedd mwyaf eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf.