Yr Eidal - 1917
Ym mis Mai gorffennodd Degfed Frwydr yr Isonzo yn union fel y brwydrau blaenorol - colledion mawr am gynnydd prin. Roedd y Cadfridog Eidalaidd, Luigi Cadorna o hyd yn benderfynol i dorri trwodd at borthladd Trieste yn Awstria-Hwngari. Digwyddodd yr unfed frwydr ar ddeg ym mis Medi ac oherwydd y colledion trwm, bu rhaid i Awstria-Hwngari ofyn am fwy o filwyr o’r Almaen.
Digwyddodd Deuddegfed Frwydr yr Isonzo, hefyd yn cael ei adnabod fel Caporetto, ym mis Tachwedd. Torrodd milwyr Almaenaidd ac Awstria drwy linellau’r Eidalwyr gan adael byddinoedd yr Eidal ar chwâl. Cilion nhw hyd at Afon Piave, ond cymerwyd tua 275,000 o Eidalwyr fel carcharorion rhyfel.
Arweiniodd y golled drom hon at gyfarfod rhwng arweinwyr y Cynghreiriaid a gytunodd i sefydlu Cyngor Rhyfel Goruchel i oruchwylio holl gynlluniau’r Cynghreiriaid.
Rhuthrwyd milwyr Prydeinig a Ffrengig i Ffrynt yr Eidal i roi cymorth a chymerwyd lle’r Cadfridog Cadorna gan y Cadfridog Armando Diaz.
Ni thorrwyd ysbryd brwydro’r Eidalwyr ar ôl y golled fawr yn Caporetto. Yn hytrach, roeddent yn fwy penderfynol, ac ad-drefnwyd nhw yn barod ar gyfer brwydrau 1918.

Cludiant mecanyddol Eidalaidd yn cilio yn ystod trychineb Brwydr Caporetto.
Chwaraeodd anifeiliaid rhan bwysig yn y rhyfel. Yma, yn nhirwedd eiriog Ffrynt yr Eidal, mae ci yn cario bwledi mewn sach arbennig ar ei gefn.