Yr Eidal - 1918

Yn 1918 tynnodd yr Almaenwyr eu milwyr yn ôl o’r Ffrynt Eidalaidd er mwyn paratoi ar gyfer Ymosodiad y Gwanwyn. O ganlyniad roedd yr Awstro-Hwngariaid yn gorfod wynebu’r Eidalwyr ar eu hunain pan ymosododd yr Eidalwyr ar hyd yr Afon Piave ym mis Mehefin. Golygai’r amodau tywydd gwael a diffyg cyflenwadau fod yr ymosodiad wedi gwthio’r Awstro-Hwngariaid nôl, gyda’r Eidalwyr yn dal 24,000 o garcharorion.

Roedd comander yr Eidal, Armando Diaz yn cynllunio ymosodiad ei hun.

Ym mis Hydref lansiodd Diaz ymosodiad ar hyd yr Afon Piave gyda’r bwriad o dorri trwy linellau’r Awstro-Hwngariaid a chyrraedd tref Vittorio Veneto. Cefnogwyd yr Eidalwyr gan filwyr Ffrainc a Phrydain, yn eu mysg unedau Cymreig megis y 10fed Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Cymreig. Erbyn diwedd mis Hydref roedd y Cynghreiriaid wedi croesi’r Afon Piave ac wedi llwyddo cipio Vittorio Veneto. Roedd lluoedd Awstria-Hwngari wedi eu gwasgaru ac erbyn dechrau mis Tachwedd roedd eu hamddiffynfeydd wedi dymchwel. Daliwyd tua 300,000 o filwyr Awstria-Hwngari yn garcharorion - buddugoliaeth syfrdanol, o’r diwedd, i’r Eidalwyr.

Milwyr Eidalaidd yn cymryd drosodd hen safle Awstro-Hwngaraidd yn dilyn eu buddugoliaeth yn Vittorio Venetto.