Coedwig Mametz

Mae’r 38fed Adran Gymreig yn ymosod ar Goedwig Mametz ar 7 Gorffennaf fel rhan o Ymosodiad y Somme.

Roedd Coedwig Mametz yn safle pwysig yn ystod Ymosodiad y Somme. Cipiwyd pentref Mametz gan y Cynghreiriaid ar 1 Gorffennaf ond roedd y goedwig gerllaw o hyd yn nwylo’r Almaenwyr ac felly roedd hi’n parhau yn fygythiad.

Rhoddwyd swyddogaeth clirio’r goedwig i’r 38fed Adran Gymreig. Amddiffynnwyd y goedwig gan filwyr elit yr Almaenwyr a oedd a llawer o brofiad a hyfforddiant. Roedd y milwyr Cymreig yn wirfoddolwyr a oedd wedi ymrestru yn hwyr yn 1914 neu’n gynnar yn 1915. Roedd llawer o’u hyfforddiant wedi bod yn annigonol, ac nid oedd y milwyr wedi profi brwydr eto.

Ar 7 Gorffennaf cychwynnodd ymosodiad y Cymry. Achosodd drylliau peiriant yr Almaenwyr nifer o golledion ac roedd y goedwig drwchus yn profi’n anodd i ymladd ynddi. Yn wynebu talcen caled, llwyddodd y Cymry glirio rhan fwyaf o’r goedwig ac erbyn i’r 38fed Adran gael eu hatgyfnerthu roedd Coedwig Mametz bron wedi ei glirio. Lladdwyd tua 600 o filwyr a swyddogion.

Yn rhan o’r 38fed Adran Gymreig oedd y Gatrawd Gymreig, y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol a Chyffinwyr De Cymru. Ymladdodd nifer o ddynion Abertawe gyda’r 14eg Bataliwn, y Gatrawd Gymreig ac roedd eu cyfraniad yn allweddol yn cipio’r goedwig pan lwyddon nhw dorri mewn i ganol y goedwig ar Orffennaf 10fed, 1916. Cawn gipolwg ar fawredd eu haberth mewn cyfeiriad i ben blwydd Coedwig Mametz yn y Cambrian Daily Leader, Gorffennaf 1917, a oedd yn bapur lleol o Abertawe.

Defnyddiodd gwleidyddion Cymreig y stori o fuddugoliaeth ‘Gymreig’ i geisio codi morâl. Wrth ymweld â milwyr Cymreig mewn gwersyll hyfforddi ym Mharc Cinmel (ger y Rhyl), rhoddodd Lloyd George (ar y pryd, yn Brif Weinidog) araith iddynt. Dywedodd am filwyr y 38fed Adran Gymreig:

‘Cyflawnon nhw lawer gydag anrhydedd i’w hunain ac i’w gwlad yr oeddent yn perthyn (bloeddiadau). Yr ymosodiad ar Goedwig Mametz oedd un o fentrau mwyaf anodd i unrhyw adran orfod wneud. Rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r Adran Gymreig a chlirion nhw’r gelyn allan o’r goedwig (bloeddiadau). O un pen i’r llall nid oes un Almaenwr byw ynddi bellach. Mae wedi cael ei yrru mas ohoni, a’ch dyletswydd chi fydd hi i yrru e’n bellach i ffwrdd, ac rwy’n credu y byddech yn cyflawni hwn (bloeddiadau).’

Adnoddau Allanol

Mae’r erthygl hon yn y Cambrian Daily Leader, papur Abertawe, o fis Gorffennaf 1917 yn rhoi mewnwelediad i brofiad dynion Abertawe yng Nghoedwig Mametz.

Mae hefyd enghreifftiau yn y papurau o gerddi a ddanfonwyd gan filwyr a ymladdodd yn Mametz sy’n disgrifio arswydau’r frwydr. Ysgrifennwyd yr enghraiff thon gan y Rhingyll J. Jarman, o Garth, ger Aberhonddu, a ymladdodd gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn Ffrainc.

Profiad Lifftenant W.R.M Gwynne o frwydro yng Nghoedwig Mametz.

Portread o ddau filwr. Mae gan y milwr sy’n eistedd clwt ar ysgwydd ei siaced sy’n dangos ei bod yn rhan o’r 38ain Adran (Cymreig).