Gwlad Belg Niwtral

Yr Almaen yn ymosod ar Wlad Belg, gwlad roedd Prydain wedi addo amddiffyn.

Roedd Gwlad Belg am fod yn niwtral yn y rhyfel, gan olygu nad oeddent am gymryd rhan.

Roedd Prydain wedi addo i amddiffyn Gwlad Belg pe bai unrhyw ymosodiad arnynt.

Cyhoeddodd yr Almaen rhyfel ar Ffrainc ar y 3ydd o Awst . Gofynnodd yr Almaen i Wlad Belg os allent anfon milwyr drwy ei gwlad er mwyn ymosod ar Ffrainc o'r gogledd. Gwrthododd Gwlad Belg.

Cyhoeddodd yr Almaen rhyfel ar Wlad Belg ar y 4ydd o Awst ac ymosod ar y wlad.

Roedd byddin Gwlad Belg yn fach o'i gymharu â byddin yr Almaen ac er iddynt ymladd yn ffyrnig iawn, cafodd ei threchu o fewn mis.

Cyhoeddwyd straeon am ddioddefaint y Belgiaid gan bapurau newydd Prydain. Unwaith dechreuodd y rhyfel, daeth y straeon hyn yn rheswm grymus i ddynion ymuno â'r fyddin . Dadleuodd llawer o bapurau newydd petai gan yr Almaen y cyfle i ymosod ar Brydain, byddai ei milwyr yn gwneud yr un peth i'r bobl yma.

Oeddech chi’n gwybod…

Brenin Albert o Wlad Belg oedd pennaeth byddin Gwlad Belg ac roedd yn aml yn mynd i'r ffrynt. Roedd ei wraig Elizabeth yn gweithio fel nyrs.

Adnoddau Allanol

Mae’r erthygl hon o’r Aberdare Leader ym mis Hydref 1914 yn dangos pa mor awyddus roedd pobl Cymru i helpu ffoaduriaid Gwlad Belg drwy gynnig llefydd iddynt fyw.

Cynhyrchwyd nifer o bosteri propaganda yn annog dynion Prydain i ymuno mewn ymateb i straeon o weithredoedd creulon yr Almaenwyr yng Ngwlad Belg. Roedd straeon ofnadwy o gyflafanau a lladd menywod a phlant – gorliwiwyd llawer o'r storïau hyn i greu effaith.

Troedfilwyr Almaenaidd yn symud trwy dref Belgaidd sydd wedi cael ei ddifrodi gan fagnelau [artillery – gynnau mawr]. Dioddefodd Gwlad Belg yn ofnadwy yn ystod y rhyfel. Daeth cannoedd o filoedd o bobl yn ffoaduriaid, gan olygu bod yn rhaid iddynt adael eu mamwlad am eu bod yn ofni’r fyddin Almaenaidd. Daeth tua 250,000 o ffoaduriaid Gwlad Belg i Brydain.

Milwyr yr Almaen ar drên i’r gorllewin wrth i'w ymosodiad mewn i Wlad Belg a Ffrainc ddechrau . Dyweda’r ysgrifen i'r chwith o'r drws 'Taith i Baris' ond ni fydd mor rhwydd â hynny...