Bataliynau’r Pals

Roedd ymuno â ‘Bataliynau’r Pals’ yn caniatáu i filwyr fynd i’r rhyfel gyda’i ffrindiau.

Nid oedd Byddin Prydain yn fawr iawn ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yr Arglwydd Kitchener yn gyfrifol am recriwtio (tan ei farwolaeth ym mis Mehefin 1916) a sylweddolodd y byddai dynion yn fwy parod i ymuno a’r fyddin tasen nhw’n gallu hyfforddi ac ymladd naill ochr a’i ffrindiau.

Ledled y wlad gwirfoddolodd dynion i ymuno â bataliynau cymdogion, cyd-weithwyr ac hyd yn oed cefnogwyr pêl-droed. Gwelodd nifer o’r Bataliynau Pals, fel eu gelwir, eu brwydro cyntaf ar y Somme. Dioddefodd rhai bataliynau golledion ofnadwy a chafodd hwn effaith sylweddol ar eu cymunedau lleol lle byddai strydoedd cyfan yn cael eu rhwygo wrth i’r dynion i gyd gael eu lladd.

Ar 7 Gorffennaf cychwynnodd ymosodiad y Cymry. Achosodd drylliau peiriant yr Almaenwyr nifer o golledion ac roedd y goedwig drwchus yn profi’n anodd i ymladd ynddi. Yn wynebu talcen caled, llwyddodd y Cymry glirio rhan fwyaf o’r goedwig ac erbyn i’r 38fed Adran gael eu hatgyfnerthu roedd Coedwig Mametz bron wedi ei glirio. Lladdwyd tua 600 o filwyr a swyddogion.

Roedd Pals Abertawe yn rhan o’r 38fed Adran Gymreig a ymosododd ar Goedwig Mametz ym mis Gorffennaf 1916. O 1,200 o ddynion, lladdwyd 100 ohonynt.

Adnoddau Allanol

Mae’r Flintshire Observer o fis Medi 1914 yn nodi’r cynllun arfaethedig i sefydlu Bataliynau PALS yng Ngogledd Cymru.

Poster yn annog dynion i ymuno a’u pals yn y fyddin.

Poster yn annog dynion i ymuno a’u pals yn y fyddin.