Prinder Tanbelenni

Byddin Prydain yn straffaglu heb ddigon o foddion saethu.

Lansiodd Byddin Prydain ymosodiad ym mis Chwefror 1915 yn Neuve-Chapelle. Llwyddon nhw i gipio’r dref a rhai ffosydd yr Almaenwyr. Ond cyfyngwyd eu cynnydd gan brinder tanbelenni i’r magnelau. Ym Mhrydain, achosodd y ‘Shell Crisis’ ddicter a phryder – sut gall Brydain obeithio i ennill y rhyfel heb ddigon o foddion saethu? Roedd David Lloyd George yn un o’r gwynebau mwyaf amlwg yn y ddadl hon ac ym mis Mehefin 1915 cafodd ei wneud yn Weinidog Arfau – safle newydd a olygai y byddai’n gofalu am gynhyrchiant yr holl arfau a moddion saethu a oedd angen ar y lluoedd arfog.

Roedd ysbryd yn isel ymysg y milwyr a sylweddolodd Lloyd George fod mynd i’r afael a’r argyfwng yn y cynhyrchiant moddion saethu yn allweddol os oedd Prydain yn bwriadu ennill y rhyfel. Aeth ati ar unwaith yn gwneud areithiau cyhoeddus am bwysigrwydd cynhyrchiant tanbelenni, ymweld â ffatrïoedd arfau a siarad i sawl cynulleidfa mawr o berchnogion a pheirianwyr yn ne Cymru i geisio helpu cynyddu cynhyrchiant tanbelenni.

Uned magnelau Prydeinig gyda’i thanbelenni mewn rhes yn barod i danio. Credwyd bod magneliadau yn allweddol bwysig i dorri drwy ffosydd yr Almaen. Fodd bynnag, roedd Prydain yn fyr o danbelenni.