Y Somme

Gorffennaf – Tachwedd 1916

Milwyr y Cynghreiriaid yn lansio ymosodiad anferth ar hyd yr Afon Somme ond yn dioddef colledion anferth.

Dechreuwyd cynllunio am ymosodiadau’r Somme yn 1915. Y gobaith oedd byddai ymosodiad anferth yn torri’r caethgyfle ar Ffrynt y Gorllewin ac yn gwthio’r Almaenwyr nôl cymaint â phosib. Ar ôl i Frwydr Verdun gychwyn, roedd angen yr ymosodiad i roi cymorth i’r Ffrancod drwy dynnu milwyr yr Almaen i ffwrdd o’r frwydr yn Verdun i amddiffyn eu safleoedd ar y Somme.

Roedd y milwyr a gymerodd rhan yn yr ymosodiadau ar y Somme yn dod o wledydd ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig, yn ogystal â rhai o Ffrainc.

Dechreuodd yr ymosodiad ym mis Chwefror 1916 ac roedd hi’n frwydr ffyrnig tu hwnt. Gyda chefnogaeth magnelau, cipiodd yr Almaenwyr un o’r caerau a oedd yn amddiffyn Verdun.

Cyn yr ymosodiad, mae ffosydd yr Almaenwyr yn cael eu tanbelenni.

Cyn diwrnod cynta’r ymosodiad, saethodd magnelau’r Prydeinwyr tua 1.7 miliwn o danbelennau at linellau’r Almaenwyr. Nid oedd y cynllunwyr yn meddwl byddai unrhyw un yn gallu goroesi’r fath danbelenni a byddai ymosodiad y milwyr yn ddigon rhwydd. Ond roeddent yn anghywir. Roedd amddiffynfeydd yr Almaenwyr yn dda iawn a goroesodd rhan fwyaf ohonynt y tanbelenni.

Ar 1 Gorffennaf mae 55,000 o ddynion yn mynd “dros y top”.

Ar 1 Gorffennaf mae’r ymosodiad yn cychwyn. Cyn i’r milwyr fynd dros y top, ffrwydrwyd rhai ffrwydron tir (ffrwydron mawr tan ddaear). Roedd craterau’r ffrwydradau hyn i fod i roi peth lloches i’r milwyr yng nghanol Tir Neb.

Am oddeutu 7.30yb symudodd 55,000 o filwyr allan o’u ffosydd ar hyd ffrynt 16 milltir o hyd. Dechreuodd drylliau peiriant yr Almaenwyr danio a lladdwyd 20,000 o filwyr y Cynghreiriaid ar y diwrnod cyntaf yn unig.

Mae’r frwydr yn parhau tan fis Tachwedd 1916.

Parhaodd ymgyrch y Somme tan fis Tachwedd 1916 ond ni lwyddodd y Cynghreiriaid gipio lawer mwy o dir newydd. Mae’r Somme wedi dod yn symbol o beth a welir fel oferedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mynydd o gasinau tanbelenni’n weddill yn dilyn ymosodiad ar y Somme.

Uned signalau, sy’n danfon a derbyn negeseuon ynglŷn a beth oedd yn digwydd mewn brwydr, yn defnyddio safle Almaenaidd fel safle dros dro.

Milwr Prydeinig yn rhoi dŵr o fflasg ei hun i’w garcharor Almaenaidd.

Wedi ei amgylchynu gan stretsierau a darnau rhwymyn, mae meddyg Prydeinig yn rhoi cymorth i glwyf Almaenwr.

Gwelwch y frwydr yn datblygu yn ein map wedi’i animeiddio.