1916

Yn 1916 lansiodd y ddwy ochr ymosodiadau anferth i geisio ennill y rhyfel. Ym mis Chwefror ymosododd yr Almaenwyr ar y ddinas Frengig, Verdun, mewn brwydr a achosodd dros miliwn o golledion. Ym mis Gorffennaf, lansiodd y Cynghreiriaid eu ymosodiad ar y Somme – ymosodiad sydd wedi dod i symboleiddio erchylldra’r Rhyfel Byd Cyntaf.