Y Dwyrain Pell

Roedd Siapan ar ochr y Cynghreiriaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Doedd y wlad ddim am gymryd rhan yn y rhyfel yn Ewrop ond helpon nhw’r Cynghreiriaid yn Asia.

Roedd yr Almaen yn rheoli porthladd yn Tseina o’r enw Tsingtao. Pan ddechreuodd y rhyfel dywedodd Siapan wrth yr Almaen bod rhaid iddynt adael Tsingtao. Pan wrthododd yr Almaen, cyhoeddodd Siapan rhyfel arnynt a pharatoi i ymosod ar y porthladd.

Roedd Prydain yn falch fod Siapan yn helpu yn y rhyfel ond yn pryderi am uchelgeisiau Siapan i gynyddu ei presenoldeb yn Tseina. Felly penderfynodd Prydain i ddanfon milwyr ei hunain

Gosododd y milwyr Cymreig, ynghyd a’r Siapaneaid, warchae ar y porthladd am wythnos cyn ymosod. Ildiodd y porthladd yn gyflym.

Bu farw 14 milwr o Gyffinwyr De Cymru o ganlyniad i’r brwydro neu oherwydd clefyd. Nhw yw’r unig gatrawd ym Myddin Prydain sy’n dal yr anrhydedd Brwydr Tsingtao.

Difrod i borthladd Tsingtao yn ystod ymosodiad y Siapaneaid.