Yr Almaen yn ymosod ar Wlad Belg

4/8/1914

Mae’r Almaen yn ymuno yn y rhyfel fel cynghreiriaid i Awstria-Hwngari. Roedd eu cynllun rhyfel, y Cynllun Schlieffen, yn gofyn am ymosod ar a churo Ffrainc mor gyflym a phosib, cyn i’w cynghreiriad, Rwsia, fod yn barod am rhyfel. Yn dilyn ymosodiad yr Almaen, mae dros 1 miliwn o ffoaduriaid o Wlad Belg yn ffoi eu cartrefi mewn ofn. Mae tua 100,000 yn symud i Brydain, gan gynnwys Cymru, i edrych am help ac am loches.