Prydain yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen

4/8/1914

Mae milwyr yr Almaen yn symud trwy Gwlad Belg niwtral ar eu ffordd mewn i Ffrainc. Mae Prydain wedi addo amddiffyn niwtraliaeth Gwlad Belg felly maent yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ac mae Llu Alldeithiol Prydain yn gadael i Ffrainc. Mae dynion ifanc dros Gymru yn gwirfoddoli i ymuno â’r lluoedd arfog i helpu gyda’r ymdrech ryfel. Ar yr adeg yma, nid oedd yn orfodol i ddynion ymuno.