
Y Lusitania yn cael ei suddo
7/5/1915
Suddir y llong deithio moethus, y Lusitania, gan long danfor yr Almaenwyr. Mae 128 o Americanwyr ymysg rheini sy’n cael eu lladd. Mae hyn yn arwain at ddicter yn yr Amerig ynglŷn a pholisïau llynges yr Almaen.
Goroesodd rhai Cymry y suddo, gan gynnwys David Alfred Thomas, Is-iarll Cyntaf y Rhondda, a Gwynn Parry Jones, tenor o'r Blaenau, Sir Fynwy.