
Consgripsiwn yn cael ei gyflwyno ym Mhrydain
24/1/1916
Oherwydd yr angen am fwy o filwyr, mae Llywodraeth Prydain yn cyflwyno’r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol sy’n cyflwyno consgripsiwn i bob dyn rhwng 18 a 41 mlwydd oed. Golygodd hyn bod pob dyn sy’n ffitio’r meini prawf yn gallu cael eu galw i ymuno â’r lluoedd arfog. Dim ond athrawon, clerigwyr a dynion oedd yn gweithio mewn diwydiannau pwysig fel cloddio ac amaeth oedd yn eithriedig. Roedd yr ymateb i gonsgripsiwn yn gymysg.