Y 53fed Adran Gymreig ym Mrwydr Gyntaf Gaza

26/3/1917

Mae’r 53ydd Adran Gymreig yn ymuno â milwyr ar draws yr Ymerodraeth ym Mrwydr Cyntaf Gaza ym Mhalesteina. Cyfrifoldeb y Cymry yw i gipio darn o dir uchel. Maen nhw’n llwyddo ar ôl brwydr ffyrnig yn erbyn yr Ottomaniaid. Ond mae dryswch yn digwydd ac mae’r 53ydd yn credu bod gorchymyn iddynt gilio. O’r 4,000 o golledion yn y frwydr, mae tri chwarter ohonynt o’r 53ydd Adran.