Cadoediad

11/11/1918

Daeth y cadoediad - cytundeb rhwng y Cynghreiriaid a’r Almaen i atal yr ymladd - i effaith am 11yb ar yr 11eg o Dachwedd. Roedd hyn yn golygu bod y Rhyfel Byd Cyntaf drosodd o’r diwedd. Cynhaliwyd dathliadau a phartïon dros Gymru. Yn drist, parhaodd yr ymladd hyd at y darfod a chollodd nifer o bobol eu bywydau ar ddiwrnod olaf y rhyfel. Credir mai Morwr Richard Morgan o Gilgwrrwg, Sir Fynwy, oedd y Cymro olaf i gael ei ladd wrth wasanaethu mewn brwydr ar ôl iddo foddi ar long HMS Garland.