
Cytundeb Versailles
1/1919
Yn Ionawr 1919, casglodd arweinwyr y cenhedloedd cynghreiriol yn Versailles yn Ffrainc i lunio’r cytundeb heddwch. Mae’r Cytundeb yn rhoi’r bai am ddechrau’r rhyfel ar ysgwyddau’r Almaen, ac felly bod rhaid iddi dalu iawndal (arian ar gyfer y difrod achosir gan y rhyfel) i’r gwledydd eraill cafodd eu heffeithio. Mae’n rhaid i’r Almaen hefyd ildio rhai ardaloedd o dir a gosodir terfyn ar faint ei byddin. Er bod yr Almaen yn credu bod y termau yn anheg, mae Cytundeb Versailles yn cael ei arwyddo ar 28 Mehefin 1919, yn union 5 mlynedd ar ôl llofruddiaeth yr Archddug Franz Ferdinand. Y Prif Weinidog David Lloyd George oedd yn cynrychioli Prydain yn y gynhadledd. Fel rhan o dermau’r Cytundeb, mae’r Almaen yn talu iawndal ar ffurf glo i wledydd fel Ffrainc. Mae hyn yn cael effaith difrifol ar ddiwydiant glo Cymru.