
Miwtini yn Aberdaugleddau
19/1/1919
Yn dilyn y rhyfel roedd nifer o fiwtiniau a streiciau ar draws Prydain gan fod milwyr a’r rheini oedd yn dychwelyd o’r lluoedd arfog yn anhapus gyda’u hamodau gweithio gwael a’u cyflogau isel. Roedd hyn yn cynnwys miwtini ar fwrdd HMS Kilbride yn Aberdaugleddau ble codwyd baner goch uwchben y llong mewn protest.