
Terfysg hiliol yng Nghasnewydd
6/6/1919
Mae terfysg yn dechrau yng Nghasnewydd ar ôl i ddyn du, yn ôl pob sôn, sarhau menyw gwyn. Mae hyn yn arwain at nifer o ymosodiadau ar dai ac eiddo gweithwyr du a gweithwyr o Asia yn y ddinas gan heidiau gwyn. Mae’r broses o ddadfyddino (rhyddhau milwyr o’u dyletswyddau) yn gadael nifer heb waith ac mae tensiynau yn cynyddu wrth i gyn-filwyr du a gwyn gystadlu am waith.