
Terfysg hiliol Caerdydd
11/6/1919
Mae terfysg yn cychwyn yn ardal Dociau Caerdydd sy’n gadael tri dyn yn farw a nifer mwy wedi’u hanafu. Fel yng Nghasnewydd ac ym mhorthladdoedd eraill fel Lerpwl, mae’r terfysg o ganlyniad i’r tensiynau cynyddol rhwng gweithwyr gwyn a tramor dros swyddi a thai, sy’n brin ar ôl y rhyfel. Arweiniodd hyn at bedwar diwrnod o ymladd brwd yn strydoedd Caerdydd ble cafodd gweithwyr a morwyr du eu targedu.
Ar yr un diwrnod, cafodd Fred Longman, gweithiwr yn y dociau, ei drywanu i farwolaeth gan forwr du yn Y Bari.