
Suddo HMS Amphion
6/8/1914
Roedd HMS Amphion, a lansiwyd yn 1911, yn un o griwserau sgowtio’r Llynges Frenhinol. Llong ryfel bach, cyflym ac ysgafn ydoedd. Cafodd ei adeiladu yn Doc Penfro a hi oedd llong ryfel cyntaf y Llynges i suddo yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl bwrw ffrwydryn Almaenaidd ger arfordir dwyrain Lloegr. Collodd 151 o ddynion eu bywydau, gan gynnwys morwyr o Sir Benfro.