
Cymro cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf yn ennill y Groes Fictoria
14/9/1914
Is-gorporal William Fuller oedd Cymro cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf i ennill y Groes Fictoria, y fedal uchaf gellid ei roi i filwr o Brydain am ddewrder. Cafodd Is-gorporal Fuller ei ddanfon i Ffrainc yn Awst 1914 gydag 2il Bataliwn y Gatrawd Gymreig. Yn ystod Brwydr Aisne ar y 14eg o Fedi, rhoddodd ei fywyd mewn perygl er mwyn helpu Capten Mark Haggard oedd wedi’i anafau’n ddifrifol. Cariodd Is-gorporal Fuller Capten Haggard i ddiogelwch ar ei gefn am 100 llath drwy ynau trwm. Gyda help milwyr eraill, llwyddodd i gario Capten Haggard i orsaf cymorth (man lle’r oedd milwyr yn gallu cael triniaeth brys). Yn anffodus, bu farw Capten Haggard y noson hynny.