Brwydr Coronel

1/11/1914

Trechwyd y Llynges Frenhinol gan longau rhyfel yr Almaen oddi ar arfordir Chile, ger dinas Coronel. Roedd llongau’r Almaen yn fwy newydd ac yn gryfach na’r pedwar llong Brydeinig oedd yn cylchwylio’r ardal. Boddwyd day o longau’r Llynges Brydeinig yn ystod y frwydr: HMS Good Hope a HMS Monmouth, a gafodd ei enwi ar ôl y sir yng Nghymru. Lladdwyd yr holl ddynion ar y ddwy long (tua 1,600 i gyd).