Carcharorion rhyfel Almaenaidd yn dianc o wersyll yn Llansannan

4/4/1915

Dihangodd tri charcharor rhyfel Almaenaidd o wersyll caethiwo – gwersyll ar gyfer milwyr wedi’u dal – yn Nyffryn Aled, Llansannan, Sir Ddinbych. Bu cannoedd o filwyr a phlismyn yn chwilio am y tri swyddog, Is-gapten Hermann Tholens, Capten Heinrich von Henning a Chapten Hans von Heldorf, am ddau ddiwrnod. Ceisiodd y swyddogion gwrdd â llong danfor Almaenaidd ger Llandudno ond nid oeddynt yn llwyddiannus. Cawsant eu chwilio a’u hail-arestio yn Llandudno ar ôl i blismon adnabod un ohonynt. Daeth yn glir ar ôl y digwyddiad bod y swyddogion wedi bod yn hynod o anlwcus; methodd y llong danfor weld golau eu tortshis achos o glwmp o gerrig oedd yn y ffordd!