
William Charles Williams o Gas-gwent yn ennill y Groes Fictoria
25/4/1915
Cafodd William Charles Williams, morwr o Gas-gwent, ei wobrwyo gyda’r Groes Fictoria am ei ddewrder yn ystod y glaniadau ar draeth V yn Cape Helles, Gallipoli, ar y 25ain o Ebrill. Gwirfoddolodd Abl Forwr Williams a tri dyn arall i helpu Edward Unwin, Comander eu llong, HMS River Clyde, i ddiogelu’r badau dadlwytho (cychod gyda gwaelodion fflat a ddefnyddiwyd i gario nwyddau a phobol o’r llongau mawrion). Daliodd yn dynn i’r rhaff am dros awr yn y môr wrth i’r gelyn barhau i saethu nes iddo gael ei lladd. Cafodd ei ddisgrifio gan Gomander Unwin fel y morwr mwyaf dewr iddo gwrdd erioed.