
Frederick Barter o Gaerdydd yn ennill y Groes Fictoria
16/5/1915
Cafodd Uwch-ringyll y Cwmni Frederick Barter o Fataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ei wobrwyo gyda’r Groes Fictoria am ddewrder yn wyneb y gelyn ym Mrwydr Festubert, Ffrainc, yn ystod Mai 1915. Fe wnaeth ef ac wyth gwirfoddolwr arall ymosod ar leoliadau Almaenaidd gyda ffrwydron a bomiau llaw i geisio ennill tir. O ganlyniad i’r symudiad, cipiodd y grŵp tri swyddog Almaenaidd, 102 dyn a 500 llath o dir y gelyn. Torrodd Uwch-ringyll Barter gwifrau 11 o ffrwydron yr Almaenwyr hefyd byddai wedi achosi difrod sylweddol.