
Agor cangen gyntaf Sefydliad y Merched ym Mhrydain yng Nghymru
16/9/1915
Agorodd cangen gyntaf Sefydliad y Merched ym Mhrydain yn Llanfairpwllgwyngyll, Sir Fôn. Sefydliadau ar gyfer menywod ydynt sy’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol. Yn ystod y rhyfel, y bwriad oedd annog menywod i dyfu a chadw bwyd eu hunain er mwyn helpu cyflenwad bwyd y genedl.