Peilot o Gymru yn ennill y Groes Fictoria

1/7/1916

Rhoddwyd y Groes Fictoria i Lionel Rees o Gaernarfon ar y diwrnod yma am ei ddewrder tra’r oedd ar batrôl yn ystod oriau cyntaf Ymosodiad y Somme. Roedd yn hedfan Airco DH.2, awyren ddwbl gydag un sedd, pan ymosododd tua deg awyren Almaenaidd. Ar ben ei hun, ymosododd Rees ar y gelyn gan ddifrodi dwy awyren yn ddifrifol cyn erlid y lleill. Erbyn hyn yr oedd wedi’i saethu yn y goes a chollodd rheolaeth o’r awyren dros dro. Er gwaethaf hyn, parhaodd i erlid awyren Almaenaidd gan ddefnyddio’i ffrwydron i gyd. Ceisiodd defnyddio’i llawddryll cyn iddo ei golli o fewn yr awyren. Ciliodd yr awyrennau Almaenaidd a glaniodd Rees yn ddiogel yn y ganolfan.

Ar y pryd, roedd Rees yn rheoli dros Sgwadron 32 o’r Corfflu Awyr Brenhinol.