
Cyffinwyr De Cymru yn Kut al Amara
4/1916
Danfonwyd Cyffinwyr De Cymru i roi cymorth i luoedd y Cadfridog Townshend oedd wedi’u hamgylchynu yn Kut al Amara, Mesopotamia (Irac heddiw). Roedd y genhadaeth yn aflwyddiannus a bu’n rhaid i’r Cadfridog Townshend ildio ar y 29ain o Ebrill.