Arestio Morgan Jones fel ‘conshi’

29/5/1916

Erlid gwrthwynebwyr cydwybodol am wrthod ymuno â’r fyddin Cafodd Morgan Jones o Elligaer, Caerffili, ei arestio o gartref ei rieni ym Margoed am wrthod perfformio gwasanaeth milwrol. Cafodd ei garcharu fel gwrthwynebwr cydwybodol yng Ngwersyll Milwrol Parc Cinmel ac yn Wormwood Scrubs ble roedd rhaid iddo wneud llafur caled. Buodd yn ôl ac ymlaen yn y carchar tan ar ôl y rhyfel.

Roedd Jones yn aelod o’r Blaid Lafur ac, yn 1921, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol (AS) Caerffili. Ef oedd y gwrthwynebwr cydwybodol cyntaf i gael ei ethol i’r Senedd ar ôl y rhyfel.