Christopher Williams a ‘The Welsh at Mametz Wood’

11/7/1916

Peintiodd yr artist Cymreig, Christopher Williams, The Welsh at Mametz Wood (1918) ar gais David Lloyd George, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel. Mae’r peintiad anferth yn dangos ymosodiad yr Adran Gymreig yng Nghoed Mametz ar 11 Gorffennaf 1916 yn fanwl iawn. Cafodd hawl arbennig i ymweld â’r man yn Nhachwedd 1916 ble lluniodd brasluniau paratoadol o’r milwyr. Roedd Williams yn heddychwr (rhywun sydd yn erbyn rhyfel a thrais) ac nid oedd yn un o’r artistiaid rhyfel swyddogol.