
Gwobrwyo dyn o Sir Benfro gyda’r Groes Fictoria
no date
Enillodd Hubert ‘Stokey’ Lewis o Aberdaugleddau y Groes Fictoria ar y diwrnod yma am ei weithred ddewr yn Macukovo yn Salonika, Groeg. Roedd Preifat Lewis o’r Gatrawd Gymreig ond yn 20 mlwydd oed pan gymerodd rhan mewn ymosodiad ar ffosydd yr Almaenwyr a’r Bwlgariaid. Er gwaethaf sawl anaf, gwrthododd unrhyw gymorth a pharhaodd i chwilio tyllau ymochel y gelyn rhag ofn bod rhywun yn cuddio yno. Ar ôl i’r galwad i filwyr o Brydain dychwelyd i’w ffosydd, aeth Lewis i helpu milwr arall oedd wedi’i anafu’n ddifrifol a’i gario i ddiogelwch drwy’r bwledi.