
Morwr o Gymru yn ennill y Groes Fictoria
7/6/1917
Gwobrwywyd y morwr William Williams o Amlwch, Sir Fôn, gyda’r Groes Fictoria wrth wasanaethu gydag Adfyddin y Llynges Frenhinol ar fwrdd HMS Pargust. Q ship oedd HMS Pargust: llong fasnachol arfog ydoedd gyda gynnau cudd er mwyn ceisio twyllo llongau tanfor i ddod i wyneb y dŵr. Ar y 7fed o Fehefin, cafod ystafell injan y llong ei ddifrodi gan dorpido Almaenaidd yng Nghefnfor yr Iwerydd. Gadawodd y ‘parti panig’ y llong er mwyn twyllo’r gelyn i feddwl bod y llong yn wag, ond cuddiodd grŵp o ddynion ar fwrdd. Daeth rhai o orchuddion y gynnau yn rhydd yn y ffrwydrad ac roedd perygl i’r cynllun cael ei ddatgelu. Daliodd Morwr Williams y porthdwll yn ei le am dros 30 munud nes i’r llong danfor godi. Pan ddaeth i’r wyneb, saethwyd y llong danfor ac fe’i suddwyd.
HMS Pargust oedd y llong gyntaf i dderbyn y Groes Fictoria. Penderfynodd y criw dylid Morwr Williams dderbyn y fraint ar eu rhan.