
Lawrence o Arabia
6/7/1917
Cafodd T.E. Lawrence ei eni yn Nhremadog, gogledd Cymru. Archeolegydd ydoedd gyda diddordeb arbennig yn niwylliant a’r iaith Arabaidd. Ar ôl dechrau’r rhyfel, cafodd apwyntio fel swyddog cudd-ymchwil oherwydd ei wybodaeth o’r Dwyrain Canol. Daeth yn ffigwr dylanwadol yng ngwrthryfel yr Arabiaid. Roedd yr Arabiaid eisiau annibyniaeth o Dwrci, un o gynghreiriaid yr Almaen. Cefnogodd Prydain y gwrthryfel i gadw lluoedd Twrci’n brysur, a fyddai’n galluogi i Brydain gwrthymosod yn fwy effeithiol. Ym mis Gorffennaf, cipiodd y lluoedd Prydeinig ac Arabaidd tref Aqaba.