
Ffrwydrad yn ffatri ym Mhen-bre
1/8/1917
Lladdwyd pedwar dyn a dwy ferch mewn ffrwydrad yn ffatri Noble TNT ym Mhen-bre. Gyda’r rhyfel yn ei anterth, roedd y ffatri yn cynhyrchu cannoedd o dunelli o ffrwydron bob wythnos ac yn llanw miliynau o fagnelau. Nid yw’n wybod beth achosodd y ffrwydrad. Angladdau’r ddwy ferch wnaeth ddenu’r rhan fwyaf o’r sylw. Cariwyd yr eirch ar gerti ac fe’u gorchuddiwyd gan faneri Jac yr Undeb, rhywbeth oedd fel arfer ond yn digwydd mewn angladdau milwrol. Roedd rhesi o ferched yn ystlysu’r certi.