‘Anfon y Nico i Landwr’

4/8/1917

Ysgrifennodd Albert Evans-Jones, sy’n fwy adnabyddus fel y bardd Cynan, lythyr adref i’w gyfnither Megan o Salonika, Groeg, oedd yn cynnwys drafft gyntaf ei gerdd ryfel gyntaf ‘Anfon y Nico i Landwr’. Mae’r gerdd yn adlewyrchu ei hiraeth am gefn gwlad ac am y bobol nôl adre.

Caiff Cynan ei ystyried fel un o feirdd rhyfel mwyaf Cymru. Yn ystod y rhyfel gwasanaethodd fel milwr a chaplan gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin a gafodd hyn ddylanwad mawr ar ei ysgrifennu. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1921 yng Nghaernarfon gyda’r gerdd ‘Mab y Bwthyn’ sy’n adrodd stori profiadau Cymro ifanc yn y rhyfel. Dyma un o’r cerddi rhyfel Cymraeg mwyaf poblogaidd.

Gellid gweld copi o’r llythyr yma.