Eisteddfod y Gadair Ddu

6/9/1917

Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 oedd y bardd Hedd Wyn oedd, yn drist iawn, wedi’i ladd ar faes y gad chwe wythnos ynghynt ym Mrwydr Cefn Pilckem. Enw’r gerdd fuddugol oedd ‘Yr Arwr’. Yn ystod y seremoni, gorchuddiwyd y gadair wag, a oedd wedi’i wneud gan grefftwr o Fflandrys, mewn lliain du. Cynhaliwyd Eisteddfod 1917 yn Birkenhead yn Lloegr a chaiff ei adnabod hyd heddiw fel ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’.